Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (109)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (60 munud) |
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen TB mewn Gwartheg (30 munud) |
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymateb y Llywodraeth i'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 (30 munud) |
6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Y camau nesaf yn y gwaith o ddiwygio'r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin (30 munud) |
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ddarparu data electronig i gwsmeriaid (15 munud) NDM5139 Edwina Hart (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol |
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr (30 munud) NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol |
9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus (15 munud) NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhy’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau ategol |
10. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 (15 munud) NDM5154 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol(Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2013. Dogfennau Ategol |
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 30 Ionawr 2013